Welsh books / Llyfrau Cymraeg

Friday, March 24, 2006

Llyfrau oedolion / Adult books

Detholiad o Nofelau a Storiau Byrion Cymraeg
A Selection of Welsh-language Novels and Short Stories






For further information contact / Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
siopybont@yahoo.com

Back / Nôl: http://siopybont.blogspot.co.uk

Tuesday, March 21, 2006

Llyfrau plant / Childrens' books

Dol clwt Sali Mali - Sali Mali beaney doll
Dol clwt Jac y Jwc - Jac y Jwc beaney doll
Taclo'r Treigladau / Mastering Mutations


Ymarferion hwyliog i wella sgiliau ieithyddol plant.

Gloywi A Gwella / Better Skills

Llyfr o ymarferion hwyliog i wella sgiliau ieithyddol plant. Crewyd gan arbenigwyr i ddatblygu llythrennedd a sgiliau iaith. Cynhwysir gweithgareddau amrywiol i symbylu'r plant, yn ogystal â chyfarwyddiadau hwylus ar gyfer rhieni.
A book of fun-filled exercises to improve literacy in children. Created by experts to develop language skills. It contains various activities to stimulate children, and easy to follow instructions for parents.

Creu Brawddegau / Forming Sentences

Cyfrol fywiog, ddarluniadol llawn i hybu a datblygu llythrennedd plant yn cynnwys ymarferion gwerthfawr a diddorol i'w cynorthwyo i ffurfio brawddegau, gyda chanllawiau yn Saesneg ar gyfer rhieni sy'n dymuno helpu eu plant; i blant 6-8 oed.
A lively, fully illustrated volume prepared to promote and develop children's literacy comprising valuable and interesting exercises to assist them to form sentences, with guides in English for parents who wish to help their children; for children aged 6-8 years.

Adnabod Llythrennau / Learning About Letters


Cyfrol addysgiadol ddarluniadol o bosau a gweithgareddau difyr i gynorthwyo plant i ddeall, darllen a sillafu geiriau Cymraeg, gyda chyfieithiad Saesneg o'r testun at ddefnydd rhieni di-Gymraeg sy'n dymuno helpu eu plant i gyflawni'r ymarferion; i blant 4-5 oed.
An illustrated educational volume of puzzles and entertaining activities to assist children to understand, read and spell Welsh words, with an English translation of the text for the use of non Welsh-speaking parents wishing to help their children to complete the exercises; for children aged 4-5 years.

Deall Geiriau / Understanding Words


Cyfrol addysgiadol ddarluniadol o bosau a gweithgareddau difyr i gynorthwyo plant i ddeall, darllen a sillafu geiriau Cymraeg, gyda chyfieithiad Saesneg o'r testun ar gyfer rhieni di-Gymraeg sy'n dymuno helpu eu plant i gyflawni'r ymarferion; i blant 5-6 oed.
An illustrated educational volume of puzzles and entertaining activities to assist children to understand, read and spell Welsh words, with an English translation of the text for the use of non Welsh-speaking parents wishing to help their children to complete the exercises; for children aged 5-6 years.

Alun yr Arth y Môr-leidr

Mae'r Lolfa newydd gyhoeddi'r chweched stori am Alun yr Arth. Y tro yma mae'r arth direidus yn troi'n fôr-leidr. Morgan Tomos, cynrychiolydd Y Lolfa yw awdur y stori a fe hefyd sydd wedi darlunio'r lluniau a chreu'r cymeriadau. Mae ei brofiadau fel gwerthwr llyfrau yn amlwg yn y stori yma gan fod rhan fwyaf o'r stori wedi ei lleoli mewn siop lyfrau sy'n gwerthu llawer o lyfrau'r Lolfa. Mae Alun yr Arth wedi cael llond bol ar chwarae gyda theganau, ac mae'n cael ei lusgo i siop lyfrau. Mae'n troi ei drwyn ar lyfrau i gychwyn ond mae'n cael gafael ar lyfr ar fôr-ladron Cymru. Mae'n cael ei hudo gan y llyfr ac wrth ddarllen y storiâu am Harri Morgan a Barti Ddu mae'n dychmygu ei fod e'n fôr-leidr - Capten Alun Wyllt! Wrth ddychmygu ei helyntion yn ymladd ar y môr mae'n chwalu'r siop lyfrau. Tuag at ddiwedd y llyfr daw'n amlwg i Alun bod llawer o sbort i gael wrth ddarllen llyfrau a drannoeth mae'n mynd yn ôl i'r siop i brynu rhagor o lyfrau.
Dyma'r chweched gyfrol yn y gyfres o lyfrau stori a llun i blant bach ac er mai stori syml iawn ydyw caiff neges pwysigrwydd darllen ei chyfleu yn gryf iawn, neges sydd yn amlwg yn agos at galon Morgan fel awdur a gwerthwr llyfrau a thad i ddau fachgen ifanc. Dywedodd Morgan,
"Pan ofynnodd Ann a Maldwyn, perchnogion Siop y Bont ym Mhontypridd, am stori yn ymwneud â siop lyfrau bachais ar y cyfle gan gyfuno stori am siop lyfrau gyda stori'r môr-ladron."
Mae cyfres Alun yr Arth wedi cael ei ganmol gan rieni a phlant fel ei gilydd. Mewn Adroddiad gan Banel Cloriannu ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru disgrifiwyd y llyfr fel,
"… enghraifft arbennig o lyfr lle'r oedd yr holl elfennau yn cywedithio'n dda - stori ddarllenadwy, testun o faint cyfforddus, a lluniau addas a deniadol."
Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa. "Braf gweld cyfres wreiddiol fel hyn yn ffynnu yng ngwyneb yr holl addasiadau sy'n boddi'r farchnad. Gobeithio bydd rhieni a phlant yn mynd ati i ddilyn esiampl Alun yr Arth i brynu a mwynhau llyfrau gwreiddiol Cymraeg."

Pris / Price £2.95
-----
Contact us for further information / Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
siopybont@yahoo.com


In Association with Amazon.co.uk


Back / Nôl: http://siopybont.blogspot.co.uk/